Mae cynllun newydd ar gyfer rhaglen £125 miliwn i helpu pobl sy'n agored i niwed, pobl hŷn a phobl ddigartref yng Nghymru yn creu ansicrwydd a heb ddigon o gyfeiriad, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol
Mae perygl nad yw Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru yn cynnig darpariaeth ddigonol i bobl fregus a phobl hŷn oherwydd y ffordd ddryslyd y mae’n gweithio a'r ansicrwydd y mae'n ei achosi i'r sefydliadau sy'n gyfrifol am ei chyflwyno, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Bwriad y rhaglen, sydd werth tua £125 miliwn y flwyddyn, yw helpu i atal digartrefedd, helpu pobl sy'n agored i niwed i fyw mor annibynnol â phosibl, a rhoi cymorth cyn gynted ag y bo modd er mwyn lleihau'r galw am wasanaethau eraill fel gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'n helpu 57,000 o bobl y flwyddyn, ac mae 37,000 o'r rheini'n bobl hŷn.
Ond er iddi fodoli ers 14 mlynedd, nid oedd y Pwyllgor yn gallu canfod pa mor llwyddiannus y mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl wedi bod, na'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddysgu ohoni i wneud gwelliannau.
Yn fuan, gallai'r rhaglen gael ei chyfuno â nifer o gynlluniau eraill i greu un 'Grant Ymyrraeth Gynnar, Atal Problemau a Chefnogaeth'. Ond nid oedd y Pwyllgor yn gallu dod o hyd i fawr o dystiolaeth i ddangos pam mae angen gwneud hyn, na pham bod hyn yn well na'r drefn ariannu bresennol.
Fe wnaeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru hefyd greu ansicrwydd i sefydliadau a rhanddeiliaid sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i bobl agored i niwed a phobl hŷn. O ystyried y prinder gwybodaeth am y cynllun grant newydd neu'r ffordd y gellid ei ariannu, roedd y Pwyllgor yn teimlo bod pethau'n cael eu celu wrtho.
"Mae'n amlwg, ar ôl bodoli am 14 mlynedd, bod nifer o ddiffygion mawr yn parhau gyda'r ffordd y caiff y Rhaglen Cefnogi Pobl ei llywodraethu a'i rheoli," meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
"Roedd y cynnydd wrth fynd i'r afael â materion a godwyd gan adolygiadau blaenorol, er enghraifft, mewn perthynas â'r fformiwla ariannu a monitro effaith y Rhaglen, wedi bod yn araf.
"Er ein bod yn cydnabod y gallai fod lle i integreiddio rhaglenni grant yn well er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, mae gennym amheuon difrifol am y ffordd y datblygwyd ac y cyhoeddwyd y cynigion ar gyfer y grant integredig newydd ym manylion cynigion cyllideb Llywodraeth Cymru.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddangos y sail dystiolaeth ar gyfer ei gynigion a phrofi'r trefniadau drwy werthusiad cadarn o brosiectau peilot ariannu hyblyg sydd bellach ar y gweill, cyn penderfynu ar gwmpas unrhyw grant newydd a'r amserlen ar gyfer ei weithredu."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
- Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer y Rhaglen yn gyflym er mwyn rhoi'r eglurder sydd ei angen ar nodau ac amcanion cyffredinol y Rhaglen;
- Bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n agos â sefydliadau rhanddeiliaid allweddol wrth werthuso effaith prosiectau peilot ariannu hyblyg a phennu cwmpas ac amseriad unrhyw integreiddio pellach o ran grant, sy'n effeithio ar y Rhaglen Cefnogi Pobl y tu hwnt i 2018-19; a
- Bod Llywodraeth Cymru yn aros a meddwl am ei ffordd o werthuso dichonoldeb cynnig grant integredig. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn amserlen y prosiectau peilot ariannu hyblyg i sicrhau y gellir cynnal archwiliad trylwyr a manwl o'u heffaith.
Y cefndir
Diben y rhaglen Cefnogi Pobl yw darparu cymorth cysylltiedig â thai i helpu pobl agored i niwed i fyw mor annibynnol â phosibl.
Nodau'r Rhaglen Cefnogi Pobl yw:
- helpu i atal a mynd i'r afael â digartrefedd
- helpu pobl agored i niwed i fyw mor annibynnol â phosibl
- rhoi'r cymorth y mae ei angen ar bobl i fyw yn eu cartrefi, hosteli, tai gwarchod neu dai arbenigol eraill
- atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf neu ddarparu cymorth cyn gynted ag y bo modd er mwyn lleihau'r galw am wasanaethau eraill fel gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
- darparu cymorth i ategu'r gofal personol neu feddygol y gallai fod ei angen ar rai pobl
- sicrhau gwasanaethau o safon, sy'n cael eu darparu mor effeithlon ac effeithiol â phosib drwy gydweithio rhwng sefydliadau sy'n cynllunio ac yn ariannu gwasanaethau a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau
- hyrwyddo cydraddoldeb a lleihau anghydraddoldebau.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £124.4m yn y rhaglen bob blwyddyn. Mae'n cefnogi mwy na 57,000 o bobl bob blwyddyn.